Hafan> Ieithyddion

Ieithyddion

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a thebigword yn gweithio gyda rhwydwaith o filoedd o ieithyddion arbenigol ledled y DU sy'n sicrhau y cyflenwir cyfiawnder yn effeithiol.

Trwy'r amser rydym yn ceisio croesawu rhagor o gyfieithwyr ar y pryd a chyfieithwyr medrus ac yma gallwch gael gwybod sut i ddod yn ieithydd i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr hyn a ddisgwylir gennych, pa safonau mae'n rhaid ichi eu diwallu ac, yn allweddol, pa fuddion a gewch.

Sut i ymuno â'r tîm o Ieithyddion

Er mwyn dod yn ieithydd arbenigol gyda thebigword a dechrau manteisio ar filoedd o dasgau posibl gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae ond angen ichi ddarparu rhai manylion syml inni.

Mae ond angen ichi gyflwyno'ch manylion trwy lenwi'rffurflen honneu gysylltu â'n Tîm Recriwtio Ieithyddion trwy e-bostiojoin@thebigword.com Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol agos.

Y cymwysterau lleiaf ar gyfer ieithyddion Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu tri chategori ar gyfer tasgau ieithyddwyr. Maent yn safonol, cymhleth a chymhleth ysgrifenedig. Mae gan bob categori lefelau lleiaf penodol o gymwysterau ar gyfer ieithyddion a gallwch ddarllen rhagor ynghylch hynyma